Croeso i Reilffordd Llyn Tegid  
"Lein Alice a'i ffrindiau"   

Archebwch ar-leinHarddwch NaturiolView site in English

Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn cynnig taith yn ôl o 9 milltir heibio’r llyn, trwy harddwch Parc Cenedlaethol Eyri.

Rheilffordd Stêm

Mwynhewch yr olygfa oddiar y trên o’r tirwedd a’r mynyddoedd - Arenig Fawr, Aran Benllyn ac Aran Fawddwy. Disgrifir eich taith yn fanwl ar dudalen ’Eich taith'.

CychwynHoly War at Bala

Lleolir prif-orsaf y lein yn Llanuwchllyn; o’r fan hyn mae’r trenau yn cysylltu’r pentref gyda thref hanesyddol y Bala. Dewch i’n gweld ni’n codi stêm yn y bore cyn i chi ymuno ar y trên, ymwelwch â’r bocs signals, neu i’r bwffé am banad a phryd ysgafn.

Diwrnod yn yr hen Gymru

Mae’r trenau yn cychwyn o Lanuwchllyn, lle mae bwffé, cyfleusterau a byrddau pic-nic. Cewch parcio am ddim yn yr orsaf.

Alice on a Slate Train SpecialLlyn Tegid

Mae’r rheilffordd yn man cychwyn am ymweliad i’r llyn neu i’r dref. Cerddwch i mewn i’r Bala a’i siopiau a chaffis, taith 10 munud - neu beth am ymadael y trên yn Llangywer i nofio, pysgota neu torheulo ar y glannau?

Gorsaf Bala

Mae’n bosib parcio nifer bychan o geir wrth ymyl ein gorsaf Bala Penybont, neu defnyddiwch y meusydd parcio yn y dref, hanner milltir i ffwrdd.

 

Rheilffordd Llyn Tegid - yn falch o gael 'Tystysgrif ragoriaeth' gan tripadvisor ym 2016